Darganfod esgyrn mewn eglwys hynafol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Mae ymchwiliad wedi dechrau, wedi i esgyrn gael eu darganfod mewn eglwys hynafol yng Nghwm Tawe.
Cafodd yr heddlu eu galw wedi'r darganfyddiad yn eglwys Llangiwg yn Rhydyfro ddydd Llun 7 Mawrth.
Roedd gwaith adnewyddu'n cael ei gynnal ar yr adeilad ar y pryd.
Mae archwiliad fforensig yn cael ei gynnal ar yr esgyrn.
Ffynhonnell y llun, Wales News Service