Pedwar newid i dîm Cymru herio'r Eidal
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi pedwar newid i'r tîm fydd yn wynebu'r Eidal yng ngêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Hallam Amos, Luke Charteris, Justin Tipuric a Rhys Webb yn rhan o'r pymtheg fydd yn dechrau yn erbyn yr Azzuri yn Stadiwm Principality.
Dan Lydiate fydd y capten, wedi i Sam Warburton gael ei anafu yn y gêm gollodd Cymru yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.
Mae Lloegr eisoes wedi eu coroni'n bencampwyr y Chwe Gwlad 2016, gyda Chymru'n edrych am fuddugoliaeth er mwyn gorffen yn ail.
Barn Cennydd Davies, sylwebydd chwaraeon BBC Cymru, am dîm Cymru.
Y Tîm
Cymru: Liam Williams (Scarlets), George North (Northampton Saints), Jonathan Davies (ASM Clermont), Jamie Roberts (Harlequins), Hallam Amos (Dreigiau), Dan Biggar (Gweilch), Rhys Webb (Gweilch); Rob Evans (Scarlets), Scott Baldwin (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Bradley Davies (Wasps), Luke Charteris (Racing 92), Dan Lydiate (Gweilch, Capt), Justin Tipuric (Gweilch), Taulupe Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Gethin Jenkins (Gleision), Tomas Francis (Exeter Chiefs / Aaron Jarvis (Gweilch)*, Jake Ball (Scarlets), Ross Moriarty (Caerloyw), Gareth Davies (Scarlets), Rhys Priestland (Caerfaddon), Gareth Anscombe (Gleision).
*Tomas Francis sydd wedi ei ddewis, ond rhaid aros am ganlyniad gwrandawiad disgyblu.
Am fwy o straeon ewch i'n is-hafan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.