Teithiau i Berlin o faes awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni Flybe wedi cyhoeddi y byddant yn dechrau gwasanaeth newydd o Faes Awyr Gaerdydd i Berlin o fis Tachwedd 2016 ymlaen.
Mae'n rhan o amserlen newydd y mae'r cwmni wedi ei gyhoeddi ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ar gyfer 2016/17.
Bydd awyrennau'n hedfan i Faes Awyr Tegel, Berlin bob dydd Mercher a phob dydd Sadwrn.
Mae rhai o fanylion eraill yr amserlen newydd yn cynnwys:
- Cynyddu'r hediadau i faes awyr Glasgow i 11 taith yr wythnos,
- Cynyddu'r hediadau i Genefa i 3 gwaith yr wythnos,
Dywedodd Debra Barber, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd:
"Mae'n wych gweld y cwmni hedfan yn ymateb i ofynion y farchnad Gymreig trwy ychwanegu capasiti ychwanegol a llwybr newydd arall i'w rwydwaith.
Mae'n hanfodol bod amrywiaeth eang o gyrchfannau'n cael eu cynnig i'n cwsmeriaid ar gyfer teithio hamdden a busnes - a hynny am y pris iawn."