Newid dedfryd llanc am dreisio merch

  • Cyhoeddwyd
Luke GrenderFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Luke Grender

Mae llanc gafodd ddedfryd wedi ei gohirio am dreisio merch, wedi ei anfon i ganolfan i droseddwyr ifanc am dair blynedd, ar ôl i'w achos gael ei glywed gan y Llys Apel.

Cafodd Luke Grender, 18 oed, ei ddedfrydu am dreisio merch ysgol, ond gofynnodd y Twrne Cyffredinol am ail-ystyried y ddedfryd.

Yn yr achos gwreiddiol, dyfarnodd y barnwr y dylai gael dedfryd ohiriedig, oherwydd yr "amgylchiadau eithriadol" yn dilyn llofruddiaeth ei chwaer feichiog, Nikitta.

Cafodd Nikitta, oedd yn 19 oed, ei llofruddio yn ei fflat yng Nghasnewydd ym Mis Chwefror 2011.

Bydd yn rhaid i Grender nawr dreulio tair blynedd dan glo.

'Niwed Seicolegol'

Yng ngwrandawiad y Llys Apêl, fe ddywedodd tri uchel farnwr nad oedd y ddefryd wreiddiol yn un ddigonol.

Clywodd y llys fod Grender yn adnabod y dioddefwr ac yn ymwybodol ei bod yn 12 oed.

Dywedodd y ferch wrth y llys iddo afael arni a'u llusgo i fyny'r grisiau a'i threisio.

Gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn gwnaeth Grender cyn cyfaddef tri achos o dreisio'n ddiweddarach.

Wrth roi barn, ychwanegodd yr Arglwyddes Ustus Sharp i Grender achosi "niwed seicolegol" i'r ferch.