Dyn yn y llys wedi 'ymosodiad' Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae achos llys wedi dechrau yn erbyn dyn sy'n cael ei gyhuddo o ymosod ar nifer o ferched, yn eu plith, myfyrwraig o Gaerdydd.
Mae Tahir Nazir o Glasgow yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, yn eu plith, tresmasu bwriadol gyda'r bwriad o gyflawni trosedd ryw a cheisio treisio.
Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Manceinion.
Ymosodiad Caerdydd
Un o'r honiadau yn erbyn Mr Nazir yw iddo ymosod ar ferch mewn llety myfyrwyr yng Nghaerdydd ar 22 Medi 2015.
Dywedodd merch iddi weld y dyn 40 oed yn gorwedd "ar ben" ei ffrind, a oedd "yn feddw iawn".
Mae yna honiadau i'r ddau syrthio oddi ar y gwely, gan achosi iddi hi fwrw ei phen.
Ar ôl iddo adael, honnir iddo ddychwelyd i'w plagio a chynnig ei hun iddyn nhw, cyn i rywun ddweud wrtho am adael.
Mae yna honiad iddo hefyd dorri ffenest er mwyn mynd i mewn i'r llety.
Mae'r cyhuddiadau eraill yn ei erbyn yn ymwneud â honiadau gan fyfyrwyr yn ardaloedd Hulme a Fallowfield ym Manceinion.
Arestio ym Manceinion
Cafodd Mr Nazir ei arestio ar ôl i ferched oedd yn rhannu tŷ yn ardal Fallowfield godi pryderon fod rhywun yn ceisio agor drysau i'w stafelloedd.
Wedi i'r merched gysylltu â'i gilydd drwy wefannau cymdeithasol, cafodd yr heddlu eu galw a chafodd Mr Nazir ei arestio gerllaw.
Daeth yr heddlu o hyd i bacedi gwag o viagra yn ei gar, yn ogystal â cherdyn adnabod ffug o Brifysgol Glasgow, a derbynebau oedd yn dangos ei fod wedi bod "yn teithio i fyny ac i lawr drwy'r wlad." Mae yna honiad ei fod hefyd wedi chwilio ar y we ar bynciau fel merched ysgol uwchradd ac wythnos y glas.
Mae Mr Nazir yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.