Jones a Francis i golli gêm yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Fydd y clo Alun Wyn Jones ddim yn chwarae eto am chwe wythnos ar ol iddo anafu ei ffer yn erbyn Lloegr.

Dywedodd hyffroddwr Cymru Warren Gatland fod Jones ond wedi cyrraedd ffitrwydd o 80% yn yr wythnosau diweddara, gan ychwaengu fod angen "amser arno i ddod yn gwbl holliach".

Mae'n golygu na fydd ar gael ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencamwpriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Hefyd yn absennol fydd y prop Tomas Francis - mae o wedi ei wahardd rhag chwarae am wyth wythnos gan banel disgyblu.

Cafodd ei enwi ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr gyda chyhuddiad ei fod wedi ceisio rhoi ei fysedd yn llygaid Dan Cole o Loegr.

Fe ddaeth Francis i'r cae fel eilydd ddydd Sadwrn yn lle Samson Lee.

Ar ôl y gêm dywedodd Warren Gatland nad oedd yn gwbl siŵr o'r hyn ddigwyddodd.

"Dwi heb weld y digwyddiad eto, fe wnes i wrando ar sylwadau y TMO ar y pryd, a dywedodd o mai dim ond un ongl o'r digwyddiad oedd i'w weld a'i bod yn anodd dod i benderfyniad."

"Roedd e'n meddwl bod yna gyffyrddiad gyda wyneb Cole.

"A siarad yn onest fy ymateb cyntaf oedd nad oedd o'n edrych yn dda, ond dwi heb gael cyfle i edrych arno fo eto. "

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Tomas Francis: Wedi ei wahardd am 8 wythnos