Cyllideb: Llai o dollau dros yr Hafren?

  • Cyhoeddwyd
cyllideb

Wrth i'r Canghellor baratoi i draddodi araith y Gyllideb yn ddiweddarach, mae BBC Cymru yn deall y bydd George Osborne yn cyhoeddi ei fod am gwtogi'r tollau i groesi Pont Hafren.

Ar hyn o bryd mae'n costio £6.60 i groesi mewn car.

Roedd disgwyl i hynny ostwng i £5.40 ar gyfer ceir a faniau yn 2018 pan fydd y bont breifat yn cael ei throsglwyddo i ddwylo'r llywodraeth, a threth ar werth yn cael ei ddiddymu.

Ond deallir y bydd Mr Osborne yn torri'r tollau ymhellach ac ynghynt na'r disgwyl yn ei gyllideb heddiw - penderfyniad fydd yn siŵr o blesio aelodau seneddol o Gymru, sydd wedi bod yn galw am doriad i roi hwb i economi de Cymru.

Economi yn arafu

Y llynedd dywedodd AS Mynwy, David Davies, bod lle i dorri'r tollau ymhellach wedi iddo gael ffigyrau gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth oedd, meddai, yn dangos refeniw o £91.4m yn 2014 ac mai dim ond £13.16m o hynny oedd yn cael ei wario ar gynnal a chadw a chostau rhedeg y pontydd.

Mae disgwyl cymorth hefyd yn y Gyllideb i ddenu busnesau i Bort Talbot, ardal sydd wedi dioddef ers y cyhoeddiad y bydd 750 o swyddi yn cael eu colli yng nghwmni dur Tata.

Mae aelodau seneddol hefyd yn awyddus i glywed rhywbeth ynglŷn â morlun llanw Abertawe, er mae'n bur debyg na fydden nhw'n clywed llawer mwy na manylion yr adolygiad i'r cynllun.

Ond gyda'r economi yn arafu unwaith eto, fe fydd rhaid i'r Canghellor ganfod toriadau sylweddol pellach os yw'n mynd i gyrraedd ei darged i gau'r bwlch rhwng yr hyn mae'r llywodraeth yn ei wario a'r hyn mae'n ei dderbyn mewn trethi.

Fe fydd hynny yn golygu toriadau mewn budd-daliadau, ac o bosib cynnydd ym mhris ein petrol wrth i Mr Osborne geisio gwireddu'i addewid i ddiddymu dyled Prydain erbyn 2020.