Cyngor yn amddiffyn proses dendro
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o fusnesau bach wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi'n fwyfwy anodd iddyn nhw gystadlu yn erbyn cwmnïau mawr wrth dendro i gyflenwi awdurdodau lleol.
Daw'r pryderon ar ôl i Gyngor Gwynedd roi cytundeb i gwmni sydd â phencadlys yn Sir Gaerloyw i gyflenwi bara i ysgolion a chartrefi gofal, yn hytrach nag adnewyddu cytundebau dau fecws yn y gogledd.
Mae'r cyngor wedi dweud wrth BBC Cymru, eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu busnesau llai i gystadlu am gytundebau cyflenwi.
Cwmni Cotteswold Dairy o Tewksbury sydd wedi sicrhau cytundeb i gyflenwi bara i ysgolion a chartrefi gofal Gwynedd tan 2020.
Pryder am y dyfodol
Mae gan gwmni Cotteswold Dairy ganolfan yng Nghyffordd Llandudno, ond mae rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn deall mai yn Lloegr y bydd y bara'n cael ei bobi.
Y cyflenwyr presennol ydi Becws Dwyran yn Y Gaerwen, a Becws Henllan yn Ninbych.
Yn ôl rheolwyr y ddau gwmni, gwnaed y penderfyniad ar sail pris, ac nad oedd modd cystadlu yn erbyn cwmni mor fawr.
Yn achos Becws Dwyran, sy'n cyflogi 10 o bobl, mae colli'r cytundeb yn golygu colli 35% o'u busnes.
Yn ôl Becws Henllan, roedd 80% o'r penderfyniad y tro hwn ar sail pris, a dim ond 20% ar sail safon y bwyd, llawer mwy o bwyslais ar bris nag yn y gorffennol.
Mae'r cwmni hefyd yn cyflenwi bara i gynghorau Dinbych, Conwy a Phowys, ac mae yna bryder a fydd mwy o gynghorau yn dilyn trywydd tebyg, yn sgil y sefyllfa economaidd a'r angen i wneud toriadau a sicrhau gwerth am arian.
Cystadlu am gytundebau
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo yn llwyr i gefnogi ac annog cwmnïau lleol i gystadlu am gytundebau'r sector gyhoeddus, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo cwmnïau llai i gystadlu am gytundebau gyda'r Cyngor.
"Fel rhan o'r ymdrechion i ddarparu cyfle teg i gwmnïau lleol, lle yn bosib rydym yn rhannu cytundebau sirol er mwyn galluogi cwmnïau llai, o'r math sy'n gweithredu yng Ngwynedd, i gystadlu amdanynt.
"Roedd y broses ddiweddar i osod cytundeb cyflenwyr bwyd yn destun proses ffurfiol agored, teg a thryloyw. Mae'n bwysig cofio fod rheoliadau cystadleuaeth yn golygu nad oes modd i'r Cyngor fynnu ar darddiad cynnyrch.
"Rydym wedi cysylltu gyda'r holl ymgeiswyr aflwyddiannus i esbonio'r penderfyniad ac i gynnig adborth."