Casnewydd 0-0 Hartlepool

  • Cyhoeddwyd
Newport County's Mark Byrne and Jake Carroll of Hartlepool compete for the ballFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Er i Gasnewydd wella eu perfformiad yn yr ail hanner bu'n rhaid iddynt fodloni ar gêm gyfartal gartref yn erbyn Hartlepool.

Daeth cyfle gorau Casnewydd i Medy Elito, ond cafodd ei ergyd o bell ei arbed gan Trevor Carson.

Mae'r canlyniad yn gweld Casnewydd yn symud i safle 17 yn yr Ail Adran, 14 pwynt yn glir o'r timau ar y gwaelod.

Yr ymwelwyr oedd gryfaf yn yr hanner cyntaf gyda Joe Day yn gorfod bod ar ei orau i atal Billy Paynter rhag sgorio.