Gwrthdrawiad yn Sir y Fflint: Dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yn Sir y Fflint nos Fawrth.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A541 ym Mhontblyddyn tua 21:50.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans eu galw i'r safle yn ogystal ag Uned Archwilio Gwrthdrawiadau Heddlu Gogledd Cymru.
Bu farw dyn 31 oed yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu wedi apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â swyddogion yn Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101.