Rhodri Talfan Davies: 'Pryder' am ddyfodol bwrdd y BBC

  • Cyhoeddwyd
rhodri talfan davies

Mae`r argymhellion i Lywodraeth y DU benodi rhan fwyaf o aelodau bwrdd newydd y BBC yn "bryder", meddai cyfarwyddwr BBC Cymru.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies "nad darlledwr y wladwriaeth yw'r BBC, ac na ddylai'r BBC fyth fod yn ddarlledwr i'r wladwriaeth".

Mae ei sylwadau yn dilyn adolygiad a oedd yn argymell disodli Ymddiriedolaeth y BBC gan benodi bwrdd o gyfarwyddwyr, gyda`u hanner wedi eu penodi gan weinidogion y llywodraeth.

Dywedodd Mr Davies fod yn rhaid i'r darlledwr gadw hyd braich wrth y llywodraeth.

'Ymddiriedaeth y gynulleidfa'

Mewn trafodaeth am adolygiad o siarter y BBC gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, dywedodd Mr Davies: "Mae'n amlwg bod pryder ynghylch y cynnig y gallai'r rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd gael eu penodi gan lywodraeth y DU.

"Mae gen i farn syml iawn ar hyn - nid darlledwr y wladwriaeth yw'r BBC, ac ni ddylai'r BBC fyth fod yn ddarlledwr i'r wladwriaeth.

"Ac felly rwyf yn meddwl bod angen edrych yn ofalus iawn ar hynny, oherwydd credaf fod ymddiriedaeth y gynulleidfa yn gwbl hanfodol.

"Nid yw hyn yn fwrdd sy'n eistedd wrth ochr y BBC, mae hwn yn fwrdd sydd wrth wraidd ein penderfyniadau golygyddol, ac mae sicrhau bod hygrededd a phellter y bwrdd oddi wrth y llywodraeth, yn hanfodol yn fy marn i. "

Mae sylwadau Mr Davies yn adleisio rhai o sylwadau'r cyfarwyddwr cyffredinol - yr Arglwydd Hall, sydd wedi dweud bod y BBC yn "un o'r darlledwyr cyhoeddus mwya' y byd, ac nid yw'n ddarlledwr i'r wladwriaeth".

Mae disgwyl adnewyddu siarter y BBC erbyn diwedd y flwyddyn.