Pryder am ddiogelwch cathod Caernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gathod yn diflannu yng Nghaernarfon i ddweud wrth yr awdurdodau.
Mae adroddiadau fod hyd at 39 o gathod wedi mynd ar goll, neu wedi eu canfod yn farw ar stad Maesincla yn ardal Cadnant, Caernarfon, ers mis Medi, gan sbarduno ofnau y gallai rhywun fod yn targedu anifeiliaid.
Mae elusen yr RSPCA wedi atgoffa pobl fod y gosb eithaf ar gyfer trosedd o'r fath yn chwe mis o garchar a/neu ddirwy o hyd at £20,000.
'Gofid mawr'
Wrth i nifer o drigolion yr ardal fynegi pryder, galwodd un o gynghorwyr y dref, Y Cynghorydd Maria Sarnacki gyfarfod cyhoeddus nos Fercher i drafod y mater.
Mewn datganiad ar wefan Facebook, dywedodd Y Cynghorydd Sarnacki: "Mae'n peri gofid mawr i mi bod ein hanifeiliaid anwes yn mynd ar goll neu'n cael eu hanafu fel hyn.
"Mae dros 39 wedi mynd ar goll ers mis Medi, ac yn ystod y mis diwethaf rwyf wedi clywed am 9 cath arall naill a'i ar goll, neu wedi'u hanafu - un gyda chlwyf bwled i'w ben, ac mae rhai wedi cael eu gwenwyno, eraill wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad.
"Yn wyneb y colledion yma, mae cyfarfod wedi ei drefnu yng Nghanolfan Maesincla am 18:30 nos Fercher, lle bydd cyfle i drafod pa gamau i'w cymryd."
'Wedi tristau'
Mae'r Parchedig Rhys Llwyd yn weinidog yn y dref, ac mae'n byw yn ardal Cadnant.
Dywedodd Mr Llwyd: "Mae hyn yn rhywbeth brawychus iawn, roeddwn wedi fy nhristáu o glywed am yr achosion hyn.
"Yn aml, mae cŵn a chathod yr unig gwmni sydd gan rai pobl yn ein cymdeithas, ac mae colli'r anifeiliaid anwes hyn yn peri loes garw iddynt."
Chwe mis o garchar
Dywedodd llefarydd ar ran RSPCA Cymru mewn datganiad: "Mae'r RSPCA yn drist iawn o glywed adroddiadau am achosion o gathod ar goll, a rhai wedi eu darganfod yn farw neu wedi eu hanafu.
"Byddem yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiadau hyn neu ddigwyddiadau tebyg yn yr ardal, i gysylltu â llinell apêl creulondeb yr RSPCA ar 0300 1234 999. Mae galwadau yn cael eu trin yn gyfrinachol.
Mae'r heddlu wedi cyfeirio'r adroddiadau i sylw'r RSPCA, ond wedi dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau, eu ffonio ar 101 neu gysylltu â Thaclo`r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.