Llofruddiaeth: Cyfeirio at Gomisiwn Cwynion yr Heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae'r corff sy'n rheoleiddio'r heddlu yn ymchwilio i ba gysylltiad fu rhwng Heddlu De Cymru â dynes gafodd ei llofruddio, cyn i'w chorff gael ei ddarganfod.
Fe gafodd corff Christine James, 65 oed, ei ddarganfod yn ei fflat ym Mae Caerdydd ar 2 Mawrth ar ôl iddi fethu a chyrraedd maes awyr i fynd ar ei gwyliau.
Mae Heddlu De Cymru wedi cyfeirio'r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.