Gatland yn ymddiheuro am sylw 'banter'
- Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi ymddiheuro am dramgwyddo wrth ddisgrifio sylwadau prop Lloegr Joe Marler tuag at Samson Lee fel "banter".
Fe wnaeth Marler ymddiheuro i Lee am ei alw'n "gypsy boy" yn ystod y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Gatland ei sylw ddydd Mawrth, ond ddydd Mercher, dywedodd nad oedd yn "goddef hiliaeth o unrhyw fath".
Roedd Lee ei hun wedi dweud ei fod yn derbyn y sylw fel tynnu coes a'i fod wedi derbyn ymddiheuriad Marler.
'Esgus wael'
Mae Marler yn wynebu gwrandawiad disgyblu ar ôl honiad ei fod wedi taro prop Cymru, Rob Evans yn ystod y gêm yn Twickenham.
Yn y datganiad, ychwanegodd Gatland: "Y bwriad oedd tynnu'r sylw oddi ar Samson, sy'n unigolyn preifat, a'i alluogi ef a gweddill y garfan i baratoi at gêm olaf y bencampwriaeth.
"Fe wnes i fy sylwadau yn dilyn trafodaeth gyda Samson am y digwyddiad."
Fe wnaeth cyn-gapten Cymru, Gareth Thomas, feirniadu sylw Gatland, gan ddweud: "Mae'n ddrwg gen i, ond alla i ddim cytuno gyda hyn fel 'banter'. Esgus gwael."
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Nid yw URC yn goddef hiliaeth o unrhyw fath.
"Mae'r digwyddiad yn destun ymchwiliad gan y Chwe Gwlad a byddwn yn croesawu diweddglo sydyn i'r ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- 14 Mawrth 2016