EE yn creu 138 o swyddi newydd ym Merthyr
- Cyhoeddwyd

Swyddi newydd
Mae cwmni phonau symudol EE yn bwriadu creu 138 o swyddi newydd ym Merthyr Tydfil.
Bydd y cwmni yn cynnal ffair swyddi ar gyfer denu staff i'r adrannau gwerthu a gwasanaeth y cwsmer dros y 6 mis nesaf.
Mae tua 200 o bobl eisoes yn gweithio yn swyddfa EE ym Mharc busnes Rhyd-y-Car.
Mae Aelod Seneddol yr ardal, Gerald Jones wedi dweud y bydd y swyddi yn rhoi "cyfle i bobl mewn ardal sydd â lefel diweithdra uchel".