Ceidwadwyr am 'arwain Cymru ar lwybr newydd'

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn mynnu fod y blaid yn barod i "arwain Cymru ar hyd llwybr newydd," wrth i'r blaid lansio'i hymgyrch ar gyfer etholiad y Cynulliad.

Ar hyn o bryd prif wrthblaid y Senedd yw'r Ceidwadwyr, gyda 14 o'r 60 sedd.

Gobaith y blaid yw ailadrodd llwyddiannau'r etholiad Cyffredinol y llynedd, pan gipiwyd etholaethau fel Gŵyr a Dyffryn Clwyd o Lafur, a Brycheiniog a Maesyfed o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r blaid eisoes wedi cyhoeddi addewidion i beidio torri gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, gosod uchafswm ar gost gofal i'r henoed ac i gynyddu'r gofal plant am ddim sydd ar gael i rieni.

Dywedodd yr arweinydd, Andrew RT Davies: "Rydyn ni'n sefyll yn barod i arwain Cymru ar hyd llwybr newydd.

"Mae'n addewidion i roi uchafswm wythnosol ar gostau, a diogelu £100,000 o asedau i'r sawl mewn gofal preswyl, a'n hymroddiad i dreblu gofal plant am ddim yn tanlinellu'r ffordd mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i sicrhau newid gwirioneddol, a darparu cyfleoedd i holl bobl Cymru."

Gyda'r blaid Lafur yn dal union hanner y seddi ar hyn o bryd, ychwanegodd y byddai ennill un sedd yn unig yn golygu fod y cydbwysedd gwleidyddol yn symud tuag at y pleidiau eraill.