Tanau gwair: 'Peidiwch bod yn droseddwr'
- Published
Mae'r gwasanaethau brys a nifer o sefydliadau wedi cytuno i gydweithio er mwyn ceisio atal tanau gwair yng Nghymru yn 2016.
Yn ôl yr heddlu, cafodd llawer o ddifrod ei achosi yn 2015 wrth i nifer o danau gael eu cynnau'n fwriadol.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol gyda Heddlu'r De, Richard Lewis: "Cafodd gweithredoedd naïf nifer fechan o bobl effaith enfawr ar lawer. Mae tanau gwair yn tynnu gwasanaethau brys angenrheidiol oddi ar bobl fregus sydd eu hangen."
"Mae'r neges yn glir eleni - os byddwch chi'n cynnau tân gwair, rydych chi'n troseddu.
".Rwy'n annog rhieni, gwarchodwyr, athrawon a'r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth am ymddygiad amheus, fel gwynt mwg neu danwydd, neu fod â matsys yn eu meddiant, neu ymddygiad amheus arall."
"Trwy gael Swyddogion Cymorth Cymunedol sydd wedi eu hariannu gan y llywodraeth, a thrwy weithio gyda phartneriaid a sefydliadau eraill, rydym wedi gallu darparu gwybodaeth i'r gymuned."
Meddai Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac achub De Cymru:"Bob tro mae gwasanaeth golau glas yn cael ei alw at dân gwair neu dân mynydd sydd wedi ei gynnau'n fwriadol, mae'n costio miloedd o bunnoedd i'r trethdalwr, mae'n niweidio'r amgylchedd, bywyd gwyllt a'r ôl troed carbon, ac mae'n peryglu bywydau.