Pwy bia'r wên?
- Cyhoeddwyd
Gobeithio eich bod chi i gyd mewn hwyliau da gan ei bod hi, ar 20 Mawrth, yn Ddiwrnod Hapusrwydd. Fedrwch chi ddyfalu pwy yw'r enwogion hapus yma tu ôl i'r wên? Cliciwch am yr atebion.

Mae hwn yn dod â phleser i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd. Pwy yw'r gwenwr rhadlon?
Mae'r wên hon wedi codi calon nifer o wylwyr yn y p'nawniau a gyda'r nos dros y blynyddoedd. Gwên pwy?
Mae hwn yn gwneud ei fywoliaeth trwy wneud i bobl chwerthin a 'dyn ni ddim yn dweud celwydd! Pwy bia'r wên?
Mae'r wên yma i'w gweld ar ei gorau yn y gegin. Po bia'r wên?
Mae'r wên yn llydan ar ôl iddo ennill ras fawr yn ddiweddar. Ar dy feic i ddyfalu'n gywir!
Mae'r wên hon wedi teithio'n bell o Bost Cwmderi i lwyfannau'r West End yn Llundain. Pwy yw ei pherchennog?
Ydy un o'r panelwyr wedi dweud rhywbeth doniol? Mae'n gwenu'n aml hefyd gan fod nifer fawr o bobl yn barod i ddathlu eu penblwyddi gyda fo. Pwy yw'r gwenwr?
A dyma wên i goroni'r cwbl. Ond gwên pwy?