Deepcut: Cyn-heddwas yn ymddiheuro am yr ymchwiliad

  • Cyhoeddwyd
Preifat Cheryl James

Mae cyn-arolygydd yr heddlu wedi ymddiheuro am yr ymchwiliad cyfyngedig i farwolaeth milwr ym marics Deepcut.

Cafodd y Preifat Cheryl James, 18 o Langollen, ei darganfod gydag anaf i'w phen ym mis Tachwedd 1995.

Roedd hi'n un o bedwar milwr fu farw ym marics Deepcut yn Surrey rhwng 1995 a 2002.

Dywedodd y cyn-archwilydd gyda Heddlu Surrey, Michael Day, ei fod wedi penderfynu nad oedd "unrhyw amgylchiadau amheus" o fewn dwy awr o gyrraedd y safle.

Clywodd y gwrandawiad yn Woking bod Mr Day wedi cyrraedd y safle am 09:04, ac wedi trosglwyddo'r ymchwiliad i ddwylo'r crwner a'r fyddin erbyn 11:12, heb archwilio'r corff na'r gwn ei hun.

Ymddiheuriad

Ymddiheurodd i deulu'r Preifat James, gan ddweud y byddai "heb os" yn gweithredu'n wahanol petai'n gorfod gwneud y penderfyniad eto.

Dywedodd nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus o ran "lleoliad y corff a'r pethau o'i amgylch".

Ychwanegodd bod llythyrau oedd yng nghwpwrdd y Preifat James "yn awgrymu ei bod hi'n pryderu am bethau" ond nad oedd nodyn wedi ei adael ganddi.

Dywedodd Alison Foster QC ar ran ei theulu bod Mr Day wedi gweithredu ar sail "rhagdybiaethau" heb archwilio'r safle yn iawn.

Ychwanegodd nad oedd Mr Day wedi cymryd tystiolaeth olion bysedd, nac wedi gwneud profion olion bysedd o'r safle cyn symud y corff.

Honnodd: "Nid oedd modd bod yn sicr bod y gwn wrth ochr Cheryl wedi tanio'r fwled farwol."

Atebodd Mr Day: "O'r hyn cefais wybod roeddwn i'n sicr mai hwn oedd yr arf oedd wedi ei ddefnyddio."

Mae'r cwest yn parhau.