Cyn arweinydd Plaid yn sôn am weithred o frad

  • Cyhoeddwyd
Lord Elis-Thomas

Dywedodd cyn arweinydd Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas ei fod yn teimlo ei fod e wedi cael ei "fradychu" gan ei blaid, yn dilyn ffrae gyda Llafur yn y Cynulliad ddoe.

Golyga penderfyniad munud olaf Plaid Cymru i bleidleisio'n unfrydol yn erbyn Mesur Iechyd y Cyhoedd ddydd Mercher fod y mesur wedi methu.

Nod y mesur oedd cyflwyno nifer o fesurau i ddiogelu'r cyhoedd, gan gynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus.

Dywedodd Arglwydd Elis-Thomas, oedd yn cefnogi'r bil, nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn ystod y bleidlais ac na chafodd wybod am fwriad ei blaid i bleidleisio yn erbyn.

"Doeddwn i ddim yn meddwl - drwy beidio â bod yn bresennol - y byddwn i wedi cyfrannu at golli deddfwriaeth bwysig.

"Rwyf wedi profi sawl siom yn ystod y Cynulliad presennol o ran fy mherthynas gyda'r blaid, ond hwn yw'r gwaethaf."

'Plentynaidd'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru nad oeddynt yn cytuno â sylwadau Arglwydd Elis-Thomas.

Roedd penderfyniad Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn y mesur yn golygu bod y Cynulliad wedi ei rannu gyda 26 pleidlais o blaid a 26 yn erbyn.

Oherwydd y canlyniad cyfartal, roedd rhaid i'r Llywydd wrthod y mesur.

Disgrifiad,

Prif Weinidog Cymru yn cyhuddo Plaid Cymru o weithredu mewn modd plentynaidd ar y Post Cyntaf.

Wrth gyfeirio at y bleidlais ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "nad oedd ef wedi clywed am beth mor blentynaidd erioed".

Dywedodd fod deddfwriaeth oedd yn diogelu plant wedi ei wrthod am "rywbeth bach".

Ychwanegodd i Blaid Cymru gynnal cyfarfod grŵp ar y funud olaf a dweud "o achos y ffaith 'da chi wedi bod yn gas i ni, ni ddim yn mynd i gefnogi'r ddeddfwriaeth, o cym' on. Mae'n rhaid tyfu lan".

Daeth penderfyniad grŵp Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn ar ôl i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddweud bod cytundeb blaenorol gyda Plaid Cymru yn "cheap date".

'Bychanu cydweithio'

Yn wreiddiol, roedd Plaid wedi bwriadu caniatáu pleidlais rydd i'w haelodau, ac roedd disgwyl i rai ACau gefnogi'r mesur nos Fercher.

Dywedodd llefarydd bod y blaid yn teimlo bod sylwadau Mr Andrews - oedd yn ymwneud â chytundeb am fesur llywodraeth leol - yn amharchus.

Ar Raglen Dylan Jones, dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru Ynys Môn, fod aelodau Llafur yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu bradychu a hynny yn "ddwfn iawn" gan Leighton Andrews.

Disgrifiad,

Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn yn cyhuddo Leighton Andrews o ddefnyddio iaith sarhaus ac o fradychu aelodau Llafur.

"Does yna ddim lle i'r math yma o iaith mewn gwleidyddiaeth.

"Yr hyn ddigwyddodd oedd bod ffocws newydd wedi ei roi ym meddwl aelodau Plaid Cymru."

Dywedodd fod y blaid wedi gofyn i Lafur dynnu'r elfen e-sigarennau o'r mesur - "ond doedd hynny ddim yn dderbyniol i Lafur".

Roedd Leighton Andrews, meddai, wedi "sarhau a bychanu" trafodaethau ar faterion cymharol anodd rhwng Plaid Cymru a Llafur.

Dywedodd Mr ap Iorwerth fod ei blaid wedi cynnig i'r llywodraeth y dylai'r mesur gael ei dynnu'n ôl cyn y bleidlais ac y dylai'r Cynulliad ddod at ei gilydd ar unwaith wedi'r Pasg i bleidleisio ar fesur nad oedd yn cynnwys e-sigarennau.

Fe ymunodd Plaid Cymru â'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr wrth bleidleisio yn erbyn y mesur oherwydd y gwaharddiad ar e-sigarets.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock