Prif Weinidog yn cyhuddo Plaid Cymru o fod yn blentynnaidd
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhuddo Plaid Cymru o weithredu mewn modd "plentynnaidd" ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol fethu a chymeradwyo deddf newydd yn ymwneud â iechyd y cyhoedd.
Ar y funud olaf penderfynodd grŵp Plaid Cymru bleidleisio'n unfrydol yn erbyn y Bil Iechyd y Cyhoedd Cymru ar ôl yr hyn maen nhw'n alw yn sylwadau "sarhaus" gan un o weinidogion y Llywodraeth.
Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru fod angen i Blaid Cymru "dyfu lan" ac mae cyn arweinydd y Blaid, Arglwydd Ellis-Thomas yn teimlo ei fod ef ei hun wedi ei "fradychu" gan y penderfyniad.
Ond yn ôl Plaid Cymru roedden nhw wedi cynnig ffordd ymlaen ar gyfer deddf newydd ond fod hwnnw wedi ei wrthod gan Lafur.
Mae'r Blaid hefyd yn honni fod aelodau Llafur yn teimlo eu bod hwythau wedi eu bradychu gan "sylwadau sarhaus" a wnaed gan Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, tuag at Blaid Cymru.
Nod y mesur aflwyddiannus oedd cyflwyno nifer o fesurau i ddiogelu'r cyhoedd, gan gynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigarennau mewn rhai mannau cyhoeddus.
'Plentynnaidd'
Roedd penderfyniad Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn y mesur yn golygu bod y Cynulliad wedi ei rannu gyda 26 pleidlais o blaid a 26 yn erbyn.
Oherwydd y canlyniad cyfartal, roedd rhaid i'r Llywydd wrthod y mesur.
Wrth gyfeirio at y bleidlais ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, "nad oedd ef wedi clywed am beth mor blentynnaidd erioed."
Dywedodd fod deddfwriaeth oedd yn diogelu plant wedi ei wrthod am "rywbeth bach."
Ychwanegodd i Blaid Cymru gynnal cyfarfod grŵp ar y funud olaf a dweud "o achos y ffaith 'da chi wedi bod yn gas i ni, ni ddim yn mynd i gefnogi'r ddeddfwriaeth, O cym on. Mae'n rhaid tyfu lan."
Prif Weinidog Cymru yn cyhuddo Plaid Cymru o weithredu mewn modd plentynaidd ar y Post Cyntaf.
'Cheap date'
Dywedodd Arglwydd Elis-Thomas, oedd yn cefnogi'r bil, nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn ystod y bleidlais ac na chafodd wybod am fwriad ei blaid i bleidleisio yn erbyn.
"Doeddwn i ddim yn meddwl - drwy beidio â bod yn bresennol - y byddwn i wedi cyfrannu at golli deddfwriaeth bwysig."
"Rwyf wedi profi sawl siom yn ystod y Cynulliad presennol o ran fy mherthynas gyda'r blaid, ond hwn yw'r gwaethaf."
Daeth penderfyniad grŵp Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn ar ôl i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews ddweud bod cytundeb blaenorol gyda Plaid Cymru yn "cheap date".
Yn wreiddiol, roedd Plaid wedi bwriadu caniatáu pleidlais rydd i'w haelodau, ac roedd disgwyl i rai ACau gefnogi'r mesur nos Fercher.
Dywedodd llefarydd bod y blaid yn teimlo bod sylwadau Mr Andrews - oedd yn ymwneud â chytundeb am fesur llywodraeth leol - yn amharchus.
Ar raglen Dylan Jones, dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Plaid Cymru Ynys Môn, fod aelodau Llafur yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu bradychu a hynny yn "ddwfn iawn" gan Leighton Andrews.
Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn yn cyhuddo Leighton Andrews o ddefnyddio iaith sarhaus ac o fradychu aelodau Llafur.
"Does yna ddim lle i'r math yma o iaith mewn gwleidyddiaeth.
"Yr hyn ddigwyddodd oedd bod ffocws newydd wedi ei roi ym meddwl aelodau Plaid Cymru."
Dywedodd fod y blaid wedi gofyn i Lafur dynnu'r elfen e-sigarennau o'r mesur - "ond doedd hynny ddim yn dderbyniol i Lafur."
Roedd Leighton Andrews, meddai, wedi "sarhau a bychanu" trafodaethau ar faterion cymharol anodd rhwng Plaid Cymru a Llafur.
Dywedodd Mr ap Iorwerth fod ei blaid wedi cynnig i'r llywodraeth y dylai'r mesur gael ei dynnu'n ôl cyn y bleidlais ac y dylai'r Cynulliad ddod at ei gilydd ar unwaith wedi'r Pasg i bleidleisio ar fesur nad oedd yn cynnwys e-sigarennau.
Fe ymunodd Plaid Cymru â'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr wrth bleidleisio yn erbyn y mesur oherwydd y gwaharddiad ar e-sigarets.
Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick:
Er y bydd y ffrae rhwng Plaid Cymru a Llafur yn ymddangos yn ddiangen a phlentynnaidd i rai - mae'n arwydd eglur o'r fath o wrthdaro a allasai nodweddi'r Cynulliad ar ôl etholiad mis Mai.
Gydol oes y Cynulliad presennol mae Llafur wedi ei chael hi'n weddol hawdd i lywodraethu heb fwyafrif eglur. Drwy chwarae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn erbyn ei gilydd, a dibynnu ar adegau ar annibyniaeth barn Dafydd Elis Thomas llwyddodd y Llywodraeth i sicrhau bron y cyfan o'i busnes - tan y diwrnod olaf un.
Gallasai pethau fod yn llawer anoddach i Lafur os mai hi yw'r blaid fwyaf ar ôl mis Mai ac os ydy'r Democrataid Rhyddfrydol yn diflannu o goridorau'r senedd. Gyda'r Llywodraeth bron yn llwyr ddibynnol ar Blaid Cymru am ei chynhaliaeth fe fyddai angen cryn sensitifrwydd a gofal wrth geisio llywodraethu - dwy rinwedd oedd yn absennol o'r siambr ddoe.