Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad Corwen
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd Heddlu'r Gogledd fod dyn wedi marw a dyn arall yn ddifrifol wael wedi gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych ddydd Mercher.
Digwyddodd y ddamwain tua 17:30 ar ffordd yr A5104 ger Bryneglwys, i'r gogledd ddwyrain o Gorwen.
Tarodd Citroen 3 llwyd oedd yn teithio tuag at Gorwen a fan Nissan goch oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall yn erbyn ei gilydd.
Bu'n rhaid i swyddogion tân dorri dau o bobl yn rhydd o'r cerbydau a chafodd dau hofrennydd eu galw.
Aed a gyrrwr y Nissan i Ysbyty Prifysgol Sir Stafford yn Stoke-on-Trent, ond bu farw'n ddiweddarach.
Cafodd gyrrwr y Citroen ei gludo i'r un ysbyty. Mae ganddo anafiadau difrifol.
Aed â thrydydd person oedd yn teithio yn y car Nissan i Ysbyty Maelor yn Wrecsam, gyda mân anafiadau.
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd drwy ffonio 101, a dyfynnu'r cyfeirnod RC16038126.