Cwest boddi Aberhonddu: Hunanladdiad
- Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dod i'r casgliad fod menyw a foddodd yn Afon Wysg yn Aberhonddu wedi lladd ei hun.
Diflannodd Anita Mary Parry o'i chartref yn y dre tra'n paratoi bwyd ar 30 Tachwedd 2015.
Mae'n debyg iddi ddweud wrth ei phartner ar y ffôn: "Dwi wedi cael digon".
Yn fuan wedyn, cerddodd y wraig 50 oed i mewn i'r afon. Ceisiodd dau o bobl oedd yn mynd a'u cŵn am dro ei hachub, ond gwrthododd eu cymorth.
Problemau alcohol
Clywodd cwest yn Aberhonddu fod Ms Parry yn diodde' o bryder difrifol a phroblemau alcohol.
Cafodd ei chorff ei ddarganfod y diwrnod canlynol.
Dywedodd Yvonne Hammond wrth y gwrandawiad ei bod hi a'i phartner wedi estyn tenyn ci at Mis Parry, ac y gallai fod wedi cydio mewn canghennau coed.
'Eisiau marw'
"Roedd hi'n ymddangos yn dawel ei meddwl, wedi ymlacio, ac o fewn rheolaeth o'r hyn roedd hi'n wneud." meddai Miss Hammond.
"Fe daflon ni dennyn ati, ond wnaeth hi ddim ymdrech i'w ddal."
"Dywedodd hi: 'Dwi jest eisiau marw'."
Clywodd y cwest fod Miss Parry wedi camu'n ôl i'r rhan o'r afon oedd yn llifo'n gyflym.
Dangosodd adroddiad tocsicoleg fod digon o alcohol yn ei gwaed iddi fod "yn feddw iawn."
Dywedodd Prif Grwner Powys, Andrew Barkley: "Rwy'n fodlon mai ei bwriad ar yr adeg honno oedd lladd ei hun.
"Bu farw o ganlyniad i hunanladdiad."