Arweinydd cyngor: Pleidlais diffyg hyder
- Cyhoeddwyd
Bydd arweinydd Cyngor Conwy, Dilwyn Roberts, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder mewn cyfarfod arbennig o'r Cyngor llawn ddydd Gwener.
Mae'r Cynghorydd Roberts, o Blaid Cymru, wedi arwain y cyngor ers 2008, ac mae'n cynrychioli clymblaid o gynghorwyr annibynnol, cynghorwyr Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Fe wnaeth nifer fach o gynghorwyr annibynnol leisio eu pryderon yn ddiweddar am y ffordd y cafodd cabinet y cyngor ei ad-drefnu.
Cododd y mater ar ôl i'r unig ddynes ar y cabinet adael.
Fe wnaeth cynghorydd o Blaid Cymru ymddiswyddo'n ddiweddarach, gan alluogi cynghorydd arall o'r un blaid, oedd hefyd yn ddynes, i ymuno gyda'r cabinet.
Ond mae rhai cynghorwyr wedi beirniadu arweinyddiaeth y Cynghorydd Roberts am y ffordd y cafodd y mater ei drin, ac maen nhw wedi ysgrifennu llythyr yn gofyn nifer o gwestiynau gan alw am bleidlais o ddiffyg hyder.