Ysgol Penweddig: Athro'n ennill apêl
- Cyhoeddwyd

Mae athro a gafodd ei ddiswyddo o'i waith yn Ysgol Penweddig yn Aberystwyth y llynedd wedi ennill apêl yn erbyn ei ddiarddel mewn tribiwnlys cyflogaeth.
Cafodd David Reeves ei ddisgyblu gan fwrdd llywodraethol Ysgol Penweddig ym mis Ionawr 2015, yn dilyn cwynion ynglŷn â'i ymddygiad.
Fis Chwefror y llynedd, fe aeth aelodau undeb yr NASUWT yn Ysgol Penweddig ar streic am dridiau ar ôl i Mr Reeves gael ei ddiswyddo. Ar y pryd, roedd yr athrawon yn dweud eu bod nhw'n anfodlon gyda'r ffordd y cafodd Mr Reeves ei ddiddymu o'i waith, a'r broses ddisgyblu.
Cafodd yr ysgol ei chau i ddisgyblion o flwyddyn 7 i flwyddyn 10 am dridiau. Dywedodd Ysgol Penweddig ar y pryd bod yr aelod o staff eisoes o dan rybudd ysgrifenedig terfynol cyn dechrau ar y broses ddisgyblu.
'Croesawu' dyfarniad
Mae Undeb athrawon yr NASUWT wedi "croesawu dyfarniad y tribiwnlys", a gafodd ei gynnal yn Aberystwyth nôl ym mis Ionawr, a bod y dyfarniad yn datgan bod "yna sail gadarn i gais y diffinydd ei fod wedi ei ddi-swyddo yn anheg".
Fe fydd yr undeb nawr yn cynorthwyo'u haelod drwy wrandawiad cymodi gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod nhw'n "hynod siomedig gyda dyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth gan ein bod o'r farn bod ymddygiad yr athro ar y ddau achlysur a arweiniodd at y diswyddiad yn annerbyniol."
Fe ddywedon nhw hefyd bod yr "Awdurdod Addysg yn astudio'r dyfarniad yn fanwl ac yn derbyn cyngor cyfreithiol ar yr oblygiadau/opsiynau."