Bysiau Padarn: Cyn berchennog yn gwadu twyll
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caernarfon, mae cyn brif weithredwr cwmni bysiau o Wynedd wedi gwadu iddo fod yn rhan o gynllun i hawlio £800,000 o arian cyhoeddus drwy dwyll.
Roedd John David Hulme, 55 oed, yn brif weithredwr ar gwmni Bysiau Padarn pan ddechreuodd y twyll honedig ym mis Gorffennaf 2011. Cafodd ei wahardd o'i waith am reswm gwahanol ym mis Rhagfyr 2012.
Erbyn hynny roedd y cwmni wedi hawlio dros £495,000 yn barod drwy honni eu bod wedi cludo mwy o deithwyr nag oedd wedi ei wneud.
Clywodd y rheithgor fod un o reolwyr y cwmni, Darren Price, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o dwyll, a hynny mewn cyfnod ar ôl i Mr Hulme roi'r gorau i weithio i'r cwmni.
Gofynnodd Matthew Curtis, y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, wrtho yn y llys ddydd Iau: "Oeddech chi'n rhan o unrhyw dwyll rhwng 1 Gorffennaf 2011 a 31 Rhagfyr 2012?"
Atebodd Mr Hulme: "Na, doeddwn i ddim".
'Datganiadau ffug'
Yna fe ofynnwyd iddo, a oedd wedi gwneud unrhyw ddatganiadau ffug allai fod yn gamarweiniol. Atebodd eto nad oedd wedi gwneud hynny, ac fe wnaeth wadu ei fod yn gwybod fod cwmni Bysiau Padarn wedi bod yn honni iddo gludo mwy o deithwyr nag oedd yn wir ac nid oedd wedi addasu na ffugio dogfennau.
Dywedodd wrth y llys nad oedd ganddo unrhyw brofiad o redeg cwmni bysiau cyn hynny ac nid oedd wedi bod yn gyfarwyddwr ar gwmnïau eraill cyn hynny.
Gofynnwyd iddo pam y cafodd ei gyflogi gan y cwmni, ac fe ddywedodd Mr Hulme fod hyn o achos ei wybodaeth am amserlennu bysiau, cytundebau ysgolion a'i brofiad gydag adrannau personel yn ymwneud a gyrrwyr a pheirianwyr.
Fe ofynnwyd iddo hefyd am y drefn o hawlio taliadau gan Gyngor Gwynedd am gludo teithwyr, gyda'r cyngor wedyn yn hawlio'r gost yn ôl gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Hulme fod gwahanol aelodau o staff yn cael eu defnyddio ar gyfer gwahanol rannau o'r system.
Mae'n gwadu cyhuddiadau o dwyll a chadw cyfrifon ffug. Mae'r achos yn parhau.