Beibl Mari Jones yn dychwelyd i'r Bala
- Cyhoeddwyd

Mae Beibl gwreiddiol Mari Jones yn dod yn ôl i'r Bala ddydd Gwener, a hynny am dri diwrnod yn unig.
Fe fydd cyfle i unrhyw un ddod i weld y Beibl, a adawodd Y Bala yn llaw Mary Jones dros 215 o flynyddoedd yn ôl.
Fel arfer, caiff y Beibl ei gadw yn Archif Cymdeithas y Beibl yng Nghaergrawnt, a'r un sy'n gofalu amdano yw Dr Onesimus Ngundu, brodor o Zimbabwe, a Dr Ngundu fydd yn dod a'r Beibl i'r Bala.
Mae pobl yn dod o bob rhan o'r byd i Gaergrawnt i weld Beiblau yn eu hiaith eu hunain, ac mae'r Dr Ngundu yn tynnu sylw pawb sy'n dod yno at Feibl Mari Jones ac at hanes y Beibl unigryw yma.
Yn 1800, pan yn 15 oed, cerddodd Mari Jones yn droednoeth o Lanfihangel y Pennant i'r Bala i brynu Beibl gan Y Parchedig Thomas Charles gyda'i henillion prin.
Mary Thomas Ysgrifennydd cangen Penllyn o Gymdeithas y Beibl.