Cwmnïau ynni mwya' heb ddechrau gosod mesuryddion clyfar
Steffan Messenger
Gohebydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Gall BBC Cymru ddatgelu nad yw sawl un o'r chwe chwmni ynni mwya' wedi dechrau gosod mesuryddion clyfar yng Nghymru eto.
Mae Llywodraeth y DU'n disgwyl i'r teclynnau fod ar waith ym mhob cartref ym Mhrydain erbyn 2020.
Bwriad y dyfeisiadau digidol yw helpu cwsmeriaid i fonitro'u defnydd o ynni yn hawdd, gan ddod a diwedd i filiau wedi'u hamcangyfrif.
Yn ôl Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU, mae cyflenwyr ynni wedi gwneud dechrau da, a'u bod wedi'u hymrwymo i sicrhau bod pob tŷ a busnes yng Nghymru'n cael cynnig mesuryddion clyfar erbyn 2020.
Prosiect mwya' mewn cenhedlaeth
Mae'r gwaith o gael gwared ar fesuryddion traddodiadol Prydain a gosod y dechnoleg ddigidol yn eu lle wedi'i ddisgrifio fel y prosiect isadeiledd fwya' mewn cenhedlaeth.
Dywedodd Fflur Lawton, Pennaeth Polisi Ynni Clyfar GB yng Nghymru - y corff sy'n hyrwyddo'r prosiect - fod yna "her yn sicr i gyrraedd y nôd ond mae cwmnïau ynni yn gweithio'n galed i wneud hynny".
"Bydd ble y'ch chi'n byw a pha fath o dy y'ch chi'n byw ynddo yn effeithio pryd y cewch chi fesurydd clyfar gan fod yr holl gwmnïau amserlenni gwahanol ar gyfer y gwaith."
Yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru, British Gas sydd ar y blaen wrth osod y mesuryddion yng Nghymru.
Mae gan y cwmni 375,000 o gwsmeriaid, a hyd yma, maen nhw wedi gosod 90,000 o fesuryddion clyfar.
Dywedodd SSE eu bod wedi'u hymrwymo i osod y teclynnau mewn miliwn o gartrefi yng Nghymru a'u bod hyd yma wedi gosod 27,000.
Eto i ddechrau ar y gwaith mae EDF, sydd a 115,000 o gwsmeriaid yng Nghymru. Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod yn aros i'r diwydiant ddatblygu system ar y cyd i osod y teclynnau.
Dywedodd EON eu bod yn ffocysu ar ganolbarth, gogledd orllewin a de ddwyrain Lloegr ar hyn o bryd tra i Npower ddweud eu bod yn treialu'r dechnoleg.
Nid yw Scottish Power, sydd â nifer o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru, wedi ateb ymholiad BBC Cymru eto.
System i ddechrau yn 2016
Mae system gyfathrebu ganolog ar gyfer mesuryddion clyfar i fod i ddechrau gweithio ym mis Hydref 2016 ac mae'r cwmnïau ynni'n dweud y bydd gosod y dyfeisiadau'n fwy syml o hynny ymlaen.
Dywedodd SSE wrth BBC Cymru eu bod hwythau'n disgwyl gorfod gosod 800 o'r mesuryddion mewn cartrefi yng Nghymru bob dydd i gyrraedd y targed.
Daeth adroddiad fis Mawrth y llynedd gan yr Institute of Directors i'r casgliad bod y prosiect yn rhy uchelgeisiol ac mewn perygl o ddatblygu'n "drychineb technoleg gwybodaeth".
Ond yn ôl Fflur Lawton o Ynni Clyfar GB, mae gan y mesuryddion y potensial i newid bywydau, gan olygu bod pobl yn fwy cyfrifol a'u defnydd o ynni.
"Mae hyn yn gwneud hi'n llawer cliriach i ni ar be'n union y'n ni'n gwario'n harian. Ac mae hynny'n cynnig dewisiadau i ni. O ran yr amgylchedd, mae'n golygu y gallwn ni fod yn ystyried sut mae defnyddio'n hynni ni yn fwy effeithiol hefyd.
"Mae 80% o'r bobl ry'n ni wedi'u holi sydd ag un o'r mesuryddion yma'n barod yn dweud eu bod nhw wedi newid eu harferion, a hanner y rhai a holwyd wedi gweld gostyngiad ym mhris eu hynni hefyd."
Mae'r elusen amgylcheddol WWF Cymru'n dweud eu bod nhw eisiau gweld y mesuryddion yn cael eu gosod yng Nghymru fel rhan o becyn ehangach o fesurau effeithlonrwydd ynni.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu ag Adran Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU am ymateb.