Colofn y clo: Yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
coombsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae chwaraewr Cymru a'r Dreigiau, Andrew Coombs, yn rhannu ei farn am gemau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni mewn cyfres o golofnau arbennig gyda Cymru Fyw.

Cyn gêm olaf y bencampwriaeth, mae'r clo yn edrych 'nôl ar y siom yn Twickenham, ac ar yr hyn sy'n rhaid i Gatland a'i dîm wneud yn erbyn yr Azzurri brynhawn Sadwrn:

'Roced yn y pen-ôl'

Dwi'n siŵr bydd y bois yn hynod o drist am y ffordd 'naethon nhw chwarae yn yr hanner cynta' 'na yn erbyn Lloegr - roedd e'n siomedig iawn.

Roedd hi'n gêm mor fawr ond 'naethon nhw jest ddim troi fyny. Wedi dweud hynny, yn y 10 munud ola' 'naethon nhw ddangos be' oedden nhw'n gallu gwneud. Gobeithio allen nhw ddangos mwy o hynny yn erbyn Yr Eidal.

Bydd pob chwaraewr rygbi yn dweud wrthot ti fod hyn yn digwydd weithiau, dim yn aml, ond bydd un gêm yn ystod y tymor lle bydd hynny'n digwydd.

Dwi ddim yn gwybod pam, ond mae'n edrych fod hynny wedi digwydd i Gymru ddydd Sadwrn. Ond un peth da am hynny - bydd hynny ddim yn digwydd eto.

Bydden nhw wedi ca'l roced lan y pen-ôl gan Shaun Edwards - maen nhw'n mynd i ddod mas wythnos hyn a pherfformio, dwi'n siŵr am hynny.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tîm rheoli Cymru - (o'r chwith i'r dde) Robin McBryde, Warren Gatland, Rob Howley, Shaun Edwards.

Gobaith i'r Eidalwyr?

Mae'r Eidal wedi ca'l amser anodd iawn y tymor yma. 'Naethon nhw gychwyn yn eitha' da yn erbyn Ffrainc, bydden nhw wedi gallu ennill honna ond mae ganddyn nhw gwpl o anafiadau.

Dwi'n meddwl bydd hi'n galed iawn iddyn nhw ddydd Sadwrn a dwi ddim yn meddwl gwneith nhw gystadlu o gwbl.

Fydd hi'n gêm agored achos dyw Cymru ddim yn ofni'r Eidal. Yn y 10 munud olaf [yn erbyn Lloegr] yr unig beth oedden nhw'n gwneud oedd dal y bêl a cheisio curo'r amddiffynwyr.

Bob tro roedden ni'n cicio'r bêl i Loegr roedden nhw'n chwarae beth oedd o'u blaenau nhw - dyna beth fydd rhaid i Gymru wneud yn erbyn Yr Eidal.

Disgrifiad o’r llun,
Rob Evans - olynydd naturiol i Gethin Jenkins?

Y rhai sy'n serennu

Dechreuodd Jamie Roberts yn wych ond fel pob un arall doedd neb yn sefyll mas yn erbyn Lloegr. Dwi wedi bod yn blês iawn gyda Rob Evans - dwi wedi bod yn siarad amdano drwy gydol y bencampwriaeth. Mae e wedi cario 'mlaen gyda'r safonau wnaeth e osod gyda'r Scarlets.

Dwi'n meddwl fod cwpl o'r bois yn lwcus i gadw'r crys ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr ond weithiau, fel chwaraewr, os ti'n chwarae'n wael mewn un gêm ti'n mynd i sortio'r pethe mas yn y gêm nesaf.

Dwi'n meddwl gwneith Cymru ennill o ryw 50 pwynt. Dyw e ddim yn neis i wylio achos mae'r Eidal yn trio'n galed iawn ond dwi'n meddwl bydd Cymru'n dod mas a gwneud pethau'n anodd iawn.

Mae ganddyn nhw lot i chwarae amdano gyda'r gemau yn Seland Newydd yn yr haf. Dwi'n meddwl bydd hi'n ddiwrnod caled iawn i'r Eidal.

Clwb Rygbi Rhyngwladol - Cymru v Yr Eidal, S4C, dydd Sadwrn, 19 Mawrth am 13:45.

Cofiwch hefyd am lif byw arbennig Cymru Fyw sy'n cychwyn am 13:15.