Troseddau Rhyw: Cymro i apelio dedfryd yn yr UDA
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Wynedd sydd wedi ei ddedfrydu i 50 mlynedd o garchar am dreisio plentyn yn yr UDA yn bwriadu apelio yn erbyn ei ddedfryd.
Fe gafodd Gareth Vincent Hall y ddedfryd uchaf bosib yn gynharach y mis hwn, ar ôl iddo gyfaddef i bedwar cyhuddiad o dreisio, ynghyd â throseddau rhyw difrifol eraill yn erbyn merch 10 oed.
Teithiodd Hall, 22, o Dalysarn yng Ngwynedd, i Eugene yn Oregon, er mwyn treisio'r ferch wedi iddo ei chyfarfod ar y we.
Fe gafodd ei ddedfrydu i 50 mlynedd o garchar heb unrhyw obaith am barôl, sy'n golygu na fyddai'n cael ei ryddhau tan ei fod yn 72 mlwydd oed.
Cadarnhaodd y Prif Dirprwy Dwrnai Rhanbarthol, Erik Hasselman, fod hysbysiad o'i apêl wedi ei nodi gan ei gyfreithwyr.
Dywedodd Mr Hasselman fod yr apêl yn ymwneud â hyd yr oruchwyliaeth ar ôl i Hall adael y carchar - sy'n gyfnod o 100 mlynedd.
Ond dywedodd fod cyflwyno'r hysbysiad i apelio, yn rhoi amser i gyfreithwyr Hall i adolygu ei achos ac o bosibl herio hyd ei ddedfryd.
"Pan fydd diffynnydd yn pledio'n euog mewn achos troseddol, mae ei hawliau i apelio yn weddol gyfyng," meddai.
Dywedodd Mr Hasselman mai'r cam nesaf oedd aros nes bod cofnodion o'r achos llys ar gael. Yna, fe fydd gan gyfreithwyr Hall tua thri mis i gyflwyno eu hapêl. Ond dywedodd y gallai'r broses gyfan gymryd hyd at ddwy flynedd.