Heddlu'n ymchwilio i farwolaethau pensiynwyr yng Ngwent

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dau bensiynwr mewn eiddo ym Mhen-y-garn ger Pont-y-pŵl.

Fe gafodd y cwpl eu darganfod yn eu cartref amser cinio ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Fe dderbyniodd swyddogion alwad am 12:45 i gyfeiriad yn Channel View, Penygarn, yn dilyn pryderon am les y preswylwyr yn yr eiddo.

"Ar ôl cyrraedd y cyfeiriad, daethpwyd o hyd i ddau gorff - dyn a dynes oedrannus."

Yn ôl yr heddlu, mae'r marwolaethau yn cael eu trin fel rhai anesboniadwy ac mae ymholiadau'n parhau.