Pobl ifanc di gartref: Risg o ecsbloetio
- Cyhoeddwyd

Mae pobl ifanc yn eu harddegau sy'n rhedeg i ffwrdd mewn mwy o berygl o gael eu hecsbloetio'n rhywiol, yn ôl ymchwil gan elusen.
Yn ôl adroddiad gan Barnardos Cymru a Phrifysgol Glyndŵr mae 80% o'r plant maen nhw'n credu sy mewn perygl sylweddol o gam-drin rhywiol wedi dianc o'u cartrefi yn y gorffennol.
Dywed yr adroddiad eu bod yn fwy tebygol o fod wedi profi camdriniaeth, o fod wedi cael trafferthion yn academaidd yn yr ysgol neu wedi dioddef problemau iechyd meddwl.
Mae'r adroddiad yn cael ei ryddhau i nodi diwrnod ymwybyddiaeth cam-fanteisio rywiol ymysg plant.
Dywedodd Yvonne Rodgers, Cyfarwyddwr Barnardos: "Mae pobl ifanc yn dod yn ynysig yn emosiynol, ac yn agored i niwed pan fydd eu perthynas gydag oedolion cyfrifol yn torri lawr.
"Mae straeon am bobl ifanc sy'n rhedeg i ffwrdd yn peintio darlun llwm o'r realiti sy'n eu hwynebu, a pha mor agored ydynt i gael eu targedu gan oedolion peryglus sy'n eu cam-drin."