Athro llanw: Gwadu torri cod ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae ficer sydd wedi bod yn gweithio fel athro llanw yn wynebu cael ei wahardd ar ôl ceisio disgyblu disgybl afreolus yng Nghaerdydd.
Honnir bod y Parch Howard Porter, 59, wedi gafael mewn plentyn naw oed mewn modd rhy arw dan ei en, a chodi ei ben wrth iddo orwedd ar ddesg.
Mae o'n gwadu'r cyhuddiad.
Clywodd gwrandawiad fod y plant eraill yn y dosbarth "wedi cael ofn" yn dilyn y digwyddiad.
Honiadau
Dywedodd y ficer fod y bachgen, sydd ym mlwyddyn 5, wedi bod yn anghwrtais ac yn heriol.
Roedd y Parch Howard Porter, cyn ficer ym Mhenparcau, Aberystwyth, wedi dweud wrth y bachgen i godi ei ben oddi ar y ddesg. Gwrthododd y bachgen.
Wrth gyflwyno'r achos yn erbyn Y Parch Porter dywedodd Cadi Dewi: "Fe wnaeth y bachgen sylw o ryw fath a pharhau i orwedd ei ben ar y ddesg.
"Honnir bod Mr Porter wedi rhoi ei law dan ên y bachgen a chodi ei ben mewn ffordd garw."
Roedd hyn, meddai, yn groes i gôd ymddygiad o ran "diogelwch disgyblion oedd yn ei ofal".
Gwadu ymddygiad annerbyniol
Fe wnaeth y bachgen gwyno i brifathrawes Ysgol Pen y Bryn, Llanrhymni. Dywedodd pedwar o ddisgyblion eraill eu bod yn dyst i stori'r bachgen.
Mae'r Parchedig Porter yn gwadu'r cyhuddiad ei fod wedi ymddwyn mewn modd annerbyniol o ran ymddygiad proffesiynol.
Dywedodd iddo roi dau fys dan en y bachgen, gan godi ei ben mewn modd gofalus.
Yn ôl swyddog ei undeb NASUWT, Colin Atkins: "Roedd Mr Porter am geisio cael sylw'r bachgen drwy gael cysylltiad â'i lygaid er mwyn rhoi cyfarwyddiadau iddo i beidio amharu y wers, ac fe wnaeth o roi dau fys o dan ei en er mwyn gwneud hynny."
Cafodd yr athro ei wahardd o'i swydd fel athro llanw gan Apollo Teaching Services ar ôl y digwyddiad.
Mae'r gwrandawiad yng Nghaerdydd yn parhau.