Bale heb ei gynnwys yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Dyw'r ymosodwr Gareth Bale heb ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a`r Wcráin.

Hefyd yn absennol mae chwaraewr canol cae Arsenal Aaron Ramsey, ac amddiffynnwr West Ham, James Collins.

Dywedodd rheolwr Cymru Chris Coleman, fod y penderfyniad i beidio cynnwys Bale wedi ei wneud ar y cyd gyda Real Madrid.

Bydd Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon yng Nghaerdydd ar 24 Mawrth ac yn teithio i'r Wcráin bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Mae partner Bale yn disgwyl eu hail blentyn, ac mae 'na ddyfalu mai hwn yw'r rheswm am ei absenoldeb.

Fydd Andy King, chwaraewr canol cae Caerlyr, ddim ar gael oherwydd salwch.

Carfan Cymru

Golgeidwad : Hennessey, Ward, Fôn Williams.

Amddiffynwyr: A Williams (c), Chester, Davies, Gunter, Matthews, Taylor, Henley, Richards.

Canol Cae: Ledley, Allen, Vaughan, Huws, J Williams, MacDonald, G Williams, Isgrove, Crofts.

Blaenwyr: Cotterill, Robson-Kanu, Lawrence, Church, Vokes, Bradshaw.