Damwain Didcot: Clirio'r safle

Image copyright Jade Ali
Image caption Jade Ali gyda'i phartner Christopher Huxtable o Abertawe

Bydd y gwaith o glirio gweddillion gorsaf bŵer Didcot yn dechrau fore Sadwrn.

Mae Christopher Huxtable, 34 oed o Abertawe, yn dal ar goll o dan weddillion y pwerdy, ynghyd â Ken Cresswell, 57 oed, a John Shaw, 61 oed, ill dau o Rotherham.

Mae partner Mr Huxtable, Jade Ali, eisoes wedi beirniadu'r ymdrech i ddod o hyd iddo, gan ddweud ei bod hi "yn y tywyllwch" am y broses.

Dywed yr heddlu a'r Gweithgor Diogelwch bod dod o hyd i'r dynion sydd ar goll yn "flaenoriaeth".

Bu farw un person ac fe gafodd pump arall eu hanafu yn y digwyddiad ar 23 Chwefror.