Cyfyngiadau teithio yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd

Mae 'na gyfyngiadau teithio yn y brifddinas ddydd Sadwrn wrth i Gymru herio'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd ffyrdd yng nghanol Caerdydd ar gau o 12:30, wrth i gefnogwyr gyrraedd Stadiwm Principality ar gyfer y gêm am 14:30.

Bydd ffyrdd ar gau tan 17:30.

Mae Trenau Arriva Cymru yn dweud y bydd system giwio newydd mewn grym i deithwyr sy'n dal trenau o orsaf Caerdydd Canolog ar ôl y gêm.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood

Mae Cyngor Caerdydd wedi annog unrhyw un sy'n gyrru i Gaerdydd i fwcio lle parcio o flaen llaw.

Yn ogystal â chanol y ddinas, bydd gyfyngiadau mewn grym ar gyfer rhannau o Ffordd y Brenin, Heol Ddwyreiniol y Bontfaen, Stryd Tudor, Stryd Plantagenet, Stryd Beauchamp, Heol Saunders, Stryd Custom House a Heol Penarth.

Ni fydd bysiau yn stopio yng nghanol y ddinas, a bydd teithwyr yn cael eu gollwng mewn lleoliadau eraill am y cyfnod.

Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair ar gau rhwng 14:30 a 20:00.