Pro12: Gleision 37-28 Munster

Rhys Patchell Image copyright Huw Evans Agency

Mae'r Gleision wedi niweidio gobeithion Munster o gipio lle yn y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth yng Nghaerdydd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Gleision yn symud i fyny i'r wythfed safle, gyda'r un pwyntiau a'r Gweilch.

Munster ddechreuodd gryfaf wrth i Darren Sweetnam sgorio wedi 10 munud o chwarae. Roedd sawl cyfle i ymestyn y bwlch ond doedd yr ymwelwyr ddim yn gallu manteisio.

Ond daeth y tîm cartref yn ôl yn gryf wedyn, a llwyddodd y Gleision i sgorio pedwar cais drwy Macauley Cook, Matthew Rees, Garyn Smith a Rhys Patchell.

Llwyddodd y maswr Patchell i drosi pob un a chicio dwy gic gosb gan sgorio 19 o bwyntiau i'r Gleision.

Daeth ceisiau i Munster gan Jack O'Donoghue a Mike Sherry, ond fe wnaeth amddiffyn y Gleision ddal yn gryf i sicrhau'r fuddugoliaeth.