Cymru 67-14 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Daeth ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni i ben gyda buddugoliaeth enfawr yn erbyn Yr Eidal.
Wythnos wedi perfformiad siomedig yn erbyn Lloegr, fe wnaeth y Cymry ail-ddarganfod eu dawn ymosodol, gan sgorio naw cais a thorri'r record am y fuddugoliaeth fwyaf mewn gêm Chwe Gwlad yng Nghaerdydd.
Mae Cymru felly'n gorffen yn ail yn y bencampwriaeth.
Daeth y sgôr cyntaf wedi llai na phum munud, pan ddaeth y mewnwr Rhys Webb o hyd i fwlch yn amddiffyn yr Azzuri yn dilyn sgrym yn ddwfn yn hanner yr Eidalwyr.
Gyda'r pwyntiau cyntaf wedi eu sicrhau, fe ddaliodd y tîm ymlaen i ymosod mewn gornest agored.
Daeth yr ail gais ychydig cyn yr hanner awr, gyda'r maswr Dan Biggar yn ychwanegu pum pwynt at y trosiad a'r ddwy gic gosb sgoriodd ynghynt. A thri munud yn ddiweddarach, fe ychwanegodd Jonathan Davies gais arall, ac aeth y Cymry oddi ar y cae ar yr hanner 27 - 0 ar y blaen.
Cynyddodd fantais y cochion yn gynnar yn yr ail hanner. Fe sgoriodd Jamie Roberts gais disgleiriaf yr ornest ar ôl 44 munud, pan diriodd o'r bêl wedi symudiad ugain cymal a thrafod slic rhwng yr olwyr a'r blaenwyr.
Ac roedd y ceisiau'n parhau i ddod. Fe sgoriodd seren y gêm, George North, ar ôl 49 munud, cyn i'r maswr Guglielmo Palazzani, sgorio pwyntiau cyntaf yr Eidal o sgarmes symudol.
Mater o funudau oedd hi cyn i Liam Williams dirio ac adfer mantais y Cymry - ond roedd yr Eidalwyr yn bygwth yn gyson yn y cyfnod hwn, a daeth cais arall iddyn nhw drwy ddwylo Gonzalo Garcia.
Ond buan iawn y tarodd Cymru'n ôl, gyda'r eilydd Ross Moriarty yn sgorio ei gais cyntaf dros Gymru yn ei ymddangosiad cyntaf yn y Chwe Gwlad.
Cafodd prynhawn llawn ceisiau yng Nghaerdydd ei goroni gan ddau gais ar ddiwedd y gêm. Sgoriodd Moriarty ei ail gais gyda munud i fynd, cyn i eilydd arall - y mewnwr Gareth Davies - dirio i ddod â symudiad olaf y gêm i ben, ac i sicrhau'r record i Gymru.