Reading 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Lex ImmersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Lex Immers yn ymosod i Gaerdydd

Fe hawliodd Caerdydd bwynt oddi cartref yn Reading diolch i gôl yn yr ail hanner gan Lex Immers.

Reading sgoriodd gyntaf, gyda Gareth McClearly yn rhwydo wedi 37 munud.

Ond fe ddaeth y gleision yn ôl pan beniodd Immers i unioni'r sgôr, wedi gwaith da gan Sammy Ameobi.

Mae Caerdydd yn dal i fod yn seithfed yn y bencampwriaeth, tri phwynt tu ôl i'r safleodd ail-gyfle.

Yn sgil y canlyniad, mae Reading wedi disgyn i'r 17eg safle - ac mae pryder am eu hymosodwr, y Cymro Hal Robson-Kanu, a gafodd ei anafu yn ystod y gêm.

Roedd disgwyl i Robson-Kanu chwarae i Gymru yn eu gemau cyfeillgar yn erbyn Iwcraen a Gogledd Iwerddon yn y dyddiau nesaf.