Casnewydd 1-4 Bristol Rovers
- Cyhoeddwyd

Alex Rodman dan bwysau gan Cristian Montano
Fe gafodd Casnewydd eu trechu gan eu cymdogion, Bristol Rovers, er iddyn nhw fynd ar y blaen ar ôl dau funud.
Alex Rodman sgoriodd yn gynnar i'r Alltudion, cyn i Ollie Clarke unioni'r sgôr.
Yn yr ail hanner fe rwydodd Cristian Montano, Matty Taylor ac Ellis Harrison - sy'n chwarae i garfan dan 21 Cymru - i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r clwb o Fryste.
Mae Casnewydd yn parhau i fod yn yr 17eg safle yn yr Ail Adran.