Achub dyn wedi cwymp 30 troedfedd
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei achub gan y gwasanaeth tân wedi iddo gwympo 9 metr (30 troedfedd) ym Mlaenau Gwent.
Fe syrthiodd y dyn oddi ar arglawdd yn Nantybwch, Tredegar am 15:15, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Cafodd parafeddygon eu gyrru i'r safle hefyd.
Does dim gwybodaeth am gyflwr y dyn.