Addewid i ymestyn deddf isafswm nyrsys i wardiau eraill
- Cyhoeddwyd

Dylai mesurau i sicrhau fod 'na isafswm o nyrsys ar rai wardiau ysbyty yng Nghymru gael eu hymestyn i wardiau mamolaeth ac iechyd meddwl, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae deddf sy'n dod i rym heddiw'n golygu nad yw nifer y nyrsys mewn wardiau cyffredinol yn cael bod yn is na nifer penodedig.
Fe gafodd y gyfraith honno ei chyflwyno gan arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams.
Mewn araith heddiw, fe fydd hi'n cyhoeddi bod ymestyn y mesur i gynnwys wardiau eraill o fewn y Gwasanaeth Iechyd yn un o'r polisïau ym maniffesto'r blaid ar gyfer etholiadau'r Cynulliad fis Mai.
Yn ogystal ag isafswm nyrsys ar wardiau mamolaeth ac iechyd meddwl, byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gosod isafswm ar gyfer nyrsys cymunedol.
'Llwyddiant'
Dywedodd Ms Williams: "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi sicrhau mai Cymru yw'r rhan gyntaf o Ewrop sydd â dyletswydd gyfreithiol ar gyfer lefelau staff. Mi fydden ni'n adeiladu ar y llwyddiant yma drwy ymestyn y gyfraith i gynnwys wardiau iechyd meddwl, wardiau mamolaeth a nyrsys cymunedol.
"Yn yr etholiad sydd ar y gweill, bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dangos ein bod wedi gwrando ar bryderon pobl.
"Rydym ni eisiau sicrhau fod gan staff y Gwasanaeth Iechyd yr amser i ofalu am y bobl sy'n annwyl inni. Dyna pam bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn sicrhau lefelau diogel o staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd."