Y Blaid Werdd yn addo 'ysgwyd' y Senedd ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Werdd Cymru am roi "chwistrelliad newydd o egni" i'r Senedd gan addo peidio gwneud rhagor o doriadau i wasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd yr arweinydd bod angen "newid go iawn" ym Mae Caerdydd wrth lansio ymgyrch y blaid yn Aberystwyth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad fis Mai.
Mae Alice Hooker-Stroud hefyd yn dweud bod y blaid wedi cael "effaith bositif" mewn cynghorau, Seneddau a Chynulliadau ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae prif bolisïau'r Blaid Werdd yn cynnwys:
- Amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen
- Cynhyrchu egni, incwm a swyddi drwy ddulliau adnewyddadwy
- Rhoi diwedd ar gau ysgolion
- Dim ffioedd dysgu i fyfyrwyr Cymreig sy'n astudio yng Nghymru
- Adeiladu 12,000 o dai newydd pob blwyddyn i safonau carbon-niwtral
- Cynyddu'r nifer o dai cymdeithasol
- Cyflwyno cynllun 10 mlynedd i inswleiddio tai gan eu gwneud yn fwy effeithlon
- Rhoi mwy o bwyslais ar iechyd cyhoeddus
- Cadw'r Gwasanaeth Iechyd mewn dwylo cyhoeddus
Dyma'r amser i herio'r "llywodraeth fflat" yng Nghymru, yn ôl Ms Hooker-Stroud.
"Mae gennym ni fwriad o greu Cymru rydym yn dymuno ei weld, yma a nawr," meddai.
"Mae pleidleisio dros y Gwyrddion ym mis Mai yn golygu ysgwyd pethau, gan roi chwistrelliad newydd o egni mewn i'r Senedd gan adeiladu newid go iawn ar gyfer dyfodol gwell i Gymru."