Cau ymchwiliad i achos honedig o werthu babi
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru'n dweud eu bod wedi dod ag ymchwiliad i honiadau fod babi chwe wythnos oed wedi ei werthu am filoedd o bunnoedd i ben.
Cafodd dau berson yn eu hugeiniau o Sbaen eu harestio yn ardal Tredelerch o Gaerdydd fis Hydref diwethaf.
Fe gafodd mam y babi, oedd wedi ei eni yn ninas Zamora yn Sbaen ym mis Medi 2015, ei harestio ym maes awyr Bryste.
Dywedodd Heddlu'r De ddydd Llun bod y tri pherson oedd wedi eu harestio ym mis Hydref wedi eu rhyddhau o fechnïaeth yr heddlu.
Esboniodd y Ditectif Gwnstabl Vince Jones: "Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan yr heddlu, oedd yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol a'r awdurdodau yn Sbaen, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ystyried yr holl dystiolaeth gan ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw droseddau wedi eu cyflawni yn y DU."