Galwad am adolygiad o gymorth ôl-mabwysiadu
- Published
Fe ddylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd ar ôl mabwysiadu, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi bod yn adolygu'r cynnydd sydd wedi'i wneud ers ymchwiliad yn 2012 i wasanaethau mabwysiadu.
Dywed y pwyllgor fod yna welliannau wedi bod o ran camau cynnar y broses babwysiadu ond fod peryderon yn parhau.
Ymhlith y prif bryderon mae:
- Yr amrywiaeth ar draws rhanbarthau Cymru;
- Y diffyg parhaus o ran cymorth ar ôl mabwysiadu
- Nad yw mwyafrif y plant yn derbyn gwaith o ansawdd o ran cofnodi profiadau bywyd.
'Ychydig iawn o gynnydd'
O ran cymorth ar ôl mabwysiadu, daeth y Pwyllgor i'r casgliad mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi'i wneud, os o gwbl, gan nodi bod awdurdodau lleol yn Lloegr, ers 2013, wedi gallu gwneud cais i Gronfa Cymorth Mabwysiadu er mwyn ariannu gwasanaethau therapi hanfodol i deuluoedd sy'n mabwysiadu.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran camau cynnar y broses fabwysiadu, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi."
"Fodd bynnag, rydym yn pryderu mai ychydig o gynnydd, os o gwbl, sydd wedi'i wneud o ran gwella cymorth ar ôl mabwysiadu sydd, yn ein barn ni, yn rhan hanfodol o'r broses.
"Mae'r amrywiaethau rhanbarthol a diffyg gwaith o ansawdd ym maes cofnodi profiadau bywyd wedi'i ddarparu ar gyfer y rhan fwyaf o'r plant a gaiff eu mabwysiadu, yn peri pryder a byddem yn annog pawb sy'n ymwneud â hyn i ymdrechu'n bellach i fynd i'r afael â'r materion hyn a darparu'r math o gymorth tosturiol a chyflawn o ansawdd sydd ei angen ar blant sydd wedi eu mabwysiadu, a'u teuluoedd."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion i wella'r drefn.