Ymchwiliad taliadau: Gwahardd pennaeth Heddlu Dyfed Powys

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae cyfarwyddwr gwasanaethau cyfreithiol Heddlu Dyfed Powys wedi ei gwahardd o'i gwaith wrth i ymchwiliad i daliadau honedig i gwmni bargyfreithwyr barhau.

Cafodd Samantha Gainard ei gwahardd fis diwethaf ar ôl i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ddechrau ymchwiliad.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran yr IPCC bod ymchwiliad wedi dechrau, a bod yr honiadau yn ymwneud â "thaliadau a wnaed gan Heddlu Dyfed Powys am wasanaethau cyfreithiol dros nifer o flynyddoedd i swyddfa bargyfreithwyr lle'r oedd ei gŵr ar y pryd yn gweithio".

Ychwanegodd y llefarydd bod yr IPCC yn ymchwilio i ba rôl oedd gan Ms Gainard wrth gymeradwyo taliadau ac a oedd hi wedi "datgan unrhyw wrthdaro buddiannau posib" yn unol â pholisi'r heddlu.

Daw'r ymchwiliad ar ôl i'r achos gael ei gyfeirio at yr IPCC gan Heddlu Dyfed Powys.

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys gadarnhau'r gwaharddiad, ond nid oedden nhw am wneud sylw pellach.

Ail ymchwiliad

Mae ymchwiliad ar wahân wedi dechrau i'r berthynas rhwng Ms Gainard a Dirprwy Brif Gwnstabl Dyfed Powys, Carl Langley.

Mae'r ymchwiliad hwnnw yn cael ei weithredu gan Heddlu Gorllewin Mercia.

Mae Mr Langley, a gafodd ei benodi i Heddlu Dyfed Powys ym mis Mawrth 2014, wedi ei symud i swydd yn ymwneud â Chymru gyfan wrth i'r ymchwiliad barhau.