Manylu ar newidiadau i hyfforddiant athrawon

  • Cyhoeddwyd
Ysgol

Mae disgwyl i'r llywodraeth roi rhagor o fanylion yn ddiweddarach am gynlluniau i ymestyn hyfforddiant athrawon yng Nghymru i bedair blynedd yn hytrach na thair.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Addysg Huw Lewis hefyd gyhoeddi y bydd 'na gwrs dwy-flynedd newydd ar gyfer ôl-raddedigion, a mwy o gyfle i athrawon cynradd arbenigo mewn pynciau penodol.

Mae Mr Lewis eisiau i bob athro neu athrawes fod ar lefel meistr maes o law.

Y llynedd, daeth y Gweinidog â'r trefniadau presennol i ben, gan ddweud bod angen newid radical.

Daw'r cynlluniau wedi i'r Athro John Furlong, Cynghorydd Cymru ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, gyhoeddi adroddiad yn ddiweddar yn edrych ar y ffordd y mae athrawon yn cael eu hyfforddi.

Bydd y gweinidog addysg yn rhannu fersiwn gynnar o'r meini prawf drafft er mwyn i'r sector addysg gyfrannu at lunio a datblygu'r cyrsiau newydd.

'Radical'

Cyn cyhoeddi'r cynlluniau ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis:

"Rwyf wedi bod yn glir ynghylch bod yn rhaid i ni wneud mwy i gyflymu gwelliant o ran darpariaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon ledled Cymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni barhau â'n rhaglen o ddiwygio addysg mewn modd radical, gan ganolbwyntio ar godi safonau'n gyffredinol.

"Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhaglen feistr bedair blynedd ar gyfer israddedigion, er mwyn i athrawon gael gwell sylfaen o ran egwyddorion addysgeg, a bod yn fwy cymwys i ymdrin â sefyllfaoedd ymarferol yr ystafell ddosbarth. O ran y llwybr ôl-raddedig, rwyf innau a'r Athro Furlong o'r farn bod angen cyrsiau dwy flynedd er mwyn paratoi athrawon y dyfodol yn briodol ar gyfer eu gyrfaoedd.

"Rydym hefyd angen partneriaeth ddiffuant â'n hysgolion a'n Sefydliadau Addysg Uwch, er mwyn i ni gynllunio Addysg Gychwynnol i Athrawon ar y cyd.

"Heb os mae'n gyfnod cyffrous a heriol i fyd addysg ac addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Rydym yn gwahodd y sector i weithio'n agos gyda ni wrth lunio a llywio'r newid dramatig y mae ein hathrawon a'n dysgwyr yn y dyfodol ei angen ac yn ei haeddu."

Dywedodd y Gweinidog bod yn rhaid i unrhyw gynllun newydd allu cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn effeithiol.

Dadansoddiad Bethan Lewis, gohebydd addysg BBC Cymru

Mae'r diwygiadau i'r drefn o hyfforddi athrawon newydd yn seiliedig ar ddau brif ganfyddiad.

Yn gyntaf, bod y drefn bresennol ddim yn ddigon da; ac yn ail bod angen math gwahanol o hyfforddiant ar gyfer yr her newydd fydd yn wynebu athrawon yn y dyfodol.

Mae prifysgolion yn cydweithio mewn tri chanolfan yn darparu hyfforddiant dysgu ar hyn o bryd - ond mae'r rheini wedi cael eu beirniadu gan y Gweinidog Addysg a'r arolygwyr addysg, Estyn, yn y gorffennol.

Heddi, mae Huw Lewis yn cyflwyno fersiwn o'r meini prawf y bydd yn rhaid i brifysgolion eu cyrraedd os ydyn nhw am barhau i gynnig y cyrsiau.

Ond nid dim ond y colegau sydd angen codi eu gem, meddai'r Gweinidog.

Bydd cwricwlwm newydd sbon i ysgolion Cymru yn gofyn am sgiliau gwahanol ac am fwy o feddwl "arloesol a chreadigol" ymhlith yr athrawon hefyd.

Ar hyn o bryd mae yna deimlad nad yw'r system hyfforddi yn meithrin hynny.

'Sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth'

Dywedodd yr Athro John Furlong, y Cynghorydd Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru:

"Er mwyn i agenda'r Llywodraeth o ddiwygio addysg lwyddo, bydd yn rhaid wrth system broffesiynol newydd ar gyfer athrawon yng Nghymru lle bydd yr athrawon eu hunain yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol i arwain y broses o ddiwygio.

"Er mwyn denu a chadw pobl o'r safon uchel ofynnol a sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n ofynnol i gyfrannu'n effeithiol i'r system addysg newydd yng Nghymru, mae angen ffurf ar addysg gychwynnol athrawon sy'n drylwyr o safbwynt ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol."