Arolwg barn: Llafur i golli seddi yn y Cynulliad?

  • Cyhoeddwyd
Blwch pleidleisio

Yn ôl arolwg barn ar sut y bydd pobl yn pleidleisio ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mae Llafur 14 o bwyntiau yn is nag yr oeddynt yn 2011.

Dywed yr arolwg bod cefnogaeth i'r blaid wedi gostwng o'i gymharu ag arolwg tebyg gafodd ei gynnal cyn etholiad y Cynulliad bum mlynedd yn ôl.

Mae arbenigwyr yn credu mai Llafur sy'n debygol o fod y blaid fwyaf ar ôl yr etholiad ar 5 Mai, ond gyda llai o seddi.

Roedd Plaid Cymru yn yr ail safle yn ôl yr arolwg, fymryn ar y blaen i'r Ceidwadwyr.

Mae'n ymddangos y bydd UKIP yn cipio rhai seddi rhanbarthol, ac fe allai'r blaid gael effaith ar ganlyniadau mewn etholaethau unigol.

Fe wnaeth YouGov holi 3,000 o bobl rhwng 7-18 Mawrth ar gyfer sefydliad Astudiaeth Etholiad Cymru.

Yn ôl yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, roedd yr arolwg yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill 27 o'r 60 sedd - gostyngiad o dri ar berfformiad 2011.

Mae'r Athro Scully hefyd yn dweud bod y ffigyrau'n awgrymu y byddai Plaid Cymru yn cipio 13 o seddi (+2), y Ceidwadwyr 11 (-3), UKIP 10 (+10) , a'r Democratiaid Rhyddfrydol 2 (-3).