Ymosodiadau Brwsel: Ymateb Cymry'r ddinas
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn y ffrwydradau ym Mrwsel, Gwlad Belg, yn gynharach fore dydd Mawrth, mae nifer o Gymry'r ddinas wedi bod yn rhannu eu hargraffiadau.
Fe ddigwyddodd y ffrwydradau cyntaf ym maes awyr Zaventum yn y ddinas am 08:00 yn lleol (07:00 GMT).
Mae'r maes awyr wedi ei leoli yng ngogledd ddwyrain y ddinas.
Ychydig yn ddiweddarach daeth adroddiadau am ffrwydrad yng ngorsaf Metro Maalbeek, sy'n agos i bencadlys y Comisiwn Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.
Mae o leiaf 31 o bobl wedi marw yn yr ymosodiadau.
Yn ôl maer Brwsel, bu farw o leiaf 20 ym Maelbeek, ac mae gweinidog iechyd Gwlad Belg wedi cadarnhau bod 11 yn farw ac 81 wedi eu hanafu yn y digwyddiad yn y maes awyr.
'Dau ffrwydrad'
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, fore Mawrth, dywedodd Chris Jones, sy'n byw ym Mrwsel: "Mae 'na ddau ffrwydrad wedi bod - dydyn nhw ddim yn siŵr os ydyn nhw'n agos at ei gilydd.
"Maen nhw'n dweud bod lot o bobl wedi dod allan o'r ardal departures hefo gwaed dros eu dillad a dydyn nhw ddim yn gwybod faint sydd wedi brifo ar y funud ond mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân i gyd yno rŵan."
Trwy gydol bore dydd Mawrth fe fu'r newyddiadurwr Dafydd ab Iago yn sôn wrth Raglen Dylan Jones am yr hyn sy'n digwydd ym Mrwsel.
Meddai'n gynharach: "Mae mwg yn dal yn codi, dwi'n gweld yr injan dân yma, dydi'r heddlu ddim wedi cau y stryd eto, mae 'na lot fawr o heddlu yma.
"Roedd un ffrind yn dweud iddo weld pobl yn gadael y metro gyda gwaed ar eu hwynebau.
"Dwi ar bwys y metro, tua 50 metr o'r fynedfa....dwi'n amau mai yn y metro yr oedd [y bom].
"Mae'r metro yn lle ble mae lot lot fawr o bobl yn mynd i weithio bob dydd, felly mae'n effeithio ar bawb."
Canolbwynt yr ymchwiliad
Mae Maalbeek wedi bod yn ganolbwynt i ymchwiliad yr awdurdodau i'r Jihadwyr oedd yn gyfrifol am gynllunio a chyflawni'r gyflafan derfysgol ym Mharis ar 13 Tachwedd y llynedd.
Cafodd un dyn, Salah Abdeslam, oedd wedi ei amau o chwarae rhan ganolog yn y cynllun hwnnw ym Mharis, ei arestio ym Maalbeek wythnos diwethaf.
Mae Brwsel eisoes ar ei lefel uchaf o ddiogelwch ers yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis nôl ym mis Tachwedd, a llywodraeth y wlad wedi codi'r lefel hwnnw o ddiogelwch y bore 'ma - i lefel 4 - ar draws Gwlad Belg.
'Codi ias'
Dywedodd Gwydion Lyn, sydd â'i gartref ym Mrwsel, wrth y Post Cyntaf ei fod wedi gadael y ddinas neithiwr ar fusnes, ond ei fod yn pryderu am ei gydweithwyr sydd yn gweithio yn y ddinas:
"Mae wedi codi ias arna i a bod yn onest," meddai.
"Mae Brwsel wedi bod ar y lefel uchaf o ran lefel terfysgaeth ond mae hwn yn lot agosach.
"O achos y gwaith dwi'n wneud dwi'n gweithio i gwmni sy'n trefnu digwyddiadau ar draws Ewrop so mae 'na lot o bobl yn teithio.
"Ar hyn o bryd mae 'na gynhadledd ym Munich ac roedd un o fy nghydweithwyr i yn teithio mas o'r maes awyr y bore ma am 06:00.
"Mae fy e-byst i wedi bod yn mynd nôl a mlaen. Mae 'na gydweithwyr i mi i fod yn hedfan yn ôl heno, so dydyn nhw ddim yn siŵr beth sydd i fod yn digwydd.
"Mae'n debyg fod pob flight wedi cael ei dargyfeirio i Liege yn ôl y sôn, ond mae o'n hollol frawychus."
'Rhaid gweithio gyda'n gilydd'
Yn ymateb i'r ymosodiadau, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae'r newyddion am yr ymosodiadau ym Mrwsel heddiw wedi f'arswydo.
"Hoffwn gydymdeimlo â phobl Gwlad Belg ac â'r gymuned ryngwladol sy'n gweithio yn y ddinas, a datgan fy nghefnogaeth iddynt.
"Rhaid gwrthsefyll melltith terfysgaeth ble bynnag mae'n codi a rhaid sefyll yn gadarn yn wyneb y bygythiad hwn i'n ffordd o fyw.
"Rydym wedi cael cadarnhad bod holl staff Llywodraeth Cymru, a phawb arall sy'n gweithio yn Nhŷ Cymru ym Mrwsel, yn ddiogel.
"Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ac yn derbyn gwybodaeth yn rheolaidd am y sefyllfa ym Mrwsel."