Gwrthdrawiad Llanisien: Cyhoeddi enw dynes fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes 50 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy nos Sadwrn.
Bu farw Karen Lewis, o ardal Cas-gwent, yn y gwrthdrawiad am tua 23:45 ar y B4293 ger Llanisien.
Mae dyn 46 oed o Sir Fynwy wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2016